Cwynodd Mrs A am y gofal a roddwyd i’w diweddar fam, Mrs B, a gafodd edwrosepsis tra oedd dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (y Bwrdd Iechyd). Er bod y Bwrdd Iechyd yn derbyn bod methiant sylweddol yn ei gofal, a oedd yn galw am wneud iawn o dan y rheoliadau priodol ar gyfer trafod cwynion, nid oedd wedi gallu dod o hyd wedyn i ran bwysig o gofnodion meddygol Mrs B. O ganlyniad i golli’r cofnodion, nid oedd yr Ombwdsmon yn gallu ymchwilio i agweddau ychwanegol o gŵyn Mrs A ac, wrth ymchwilio i gŵyn bellach am gyfnod gofal gwahanol, byddai ei allu i weld hanes clinigol Mrs B yn gyfyngedig.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y byddai’n briodol ceisio setlo cwyn Ms A. Cytunodd y Bwrdd Iechyd wedyn i wneud y canlynol:
Ymddiheuro’n llaes i Mrs A am golli’r cofnodion (o fewn 1 mis)
Talu iawndal o £1,500 i Mrs A (o fewn 1 mis)
Darparu disgrifiad i’r Ombwdsmon o unrhyw fesurau y mae’n ystyried a/neu’n bwriadu eu cyflwyno i atal colli cofnodion yn y dyfodol (o fewn 2 fis).
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau a gymerodd y Bwrdd Iechyd yn rhesymol, o dan yr amgylchiadau. Felly, barnodd fod cwyn Ms A am golli cofnodion wedi cael ei setlo.