Cwynodd Mrs A am y ffordd y deliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) â chwyn, a gyflwynwyd yng nghyswllt y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar ŵr. Dywedodd Mrs A na chafodd wybod am fodolaeth gwasanaethau eiriolaeth a fyddai wedi ei helpu drwy’r broses gwyno. Hefyd, dywedodd Mrs A nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn rhoi sylw llawn i’r pryderon a godwyd ganddi.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu rhoi gwybod i Mrs A am argaeledd gwasanaethau eiriolaeth a chymorth a fyddai wedi gallu ei helpu. Canfu hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro i Mrs A am fethiant a nodwyd yn ei ymchwiliad o ran y diffyg asesiadau galluedd a gynhaliwyd. Hefyd, gwelodd nad oedd adroddiad yr ymchwiliad yn rhoi sylw i nifer o faterion a godwyd gan Mrs A.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd, ac er mwyn datrys cwyn Mrs A, cytunodd y dylai, o fewn 20 diwrnod gwaith, roi ymddiheuriad ac esboniad iddi am y methiant i ddarparu manylion gwasanaethau eiriolaeth iddi, ymddiheuro am y methiant i gynnal unrhyw asesiadau galluedd ar gyfer ei diweddar ŵr, darparu manylion i Mrs A a’r Ombwdsmon am y camau a gymerwyd i wella’r ddarpariaeth gwasanaeth o ran sicrhau bod asesiadau galluedd yn cael eu cwblhau, a darparu ymateb ysgrifenedig pellach i gŵyn a oedd yn rhoi sylw i’r materion a oedd heb eu datrys.