Cwynodd Mr A nad oedd wedi cael cymorth priodol a digonol gan Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) rhwng mis Rhagfyr 2019 a mis Medi 2020. Cwynodd hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ystyriaeth briodol i’w anghenion iechyd meddwl cymhleth pan aeth i Ysbyty Brenhinol Morgannwg (“yr Ysbyty”) ar 1 a 15 Mehefin 2020 a’i fod wedi methu ei ryddhau’n ddiogel. Cwynodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’w gŵyn yn briodol.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi cymorth iechyd meddwl priodol a digonol i Mr A gan ei Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol rhwng mis Rhagfyr 2019 a mis Medi 2020. Ni chadarnhawyd yr elfen honno o’r gŵyn. O ran y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried anghenion Iechyd Meddwl cymhleth Mr A, canfu’r Ombwdsmon ei fod wedi cymryd camau priodol er iddo gael ei wahodd i ystyried angen Mr A am addasiadau rhesymol yn y dyfodol ac i adolygu sut mae’n adnabod cleifion ag anabledd yn brydlon pan fyddant yn dod i’r Adran Achosion Brys. Canfu’r Ombwdsmon hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi methu rhyddhau Mr A yn ddiogel ers iddo adael yr ysbyty cyn iddo allu ei ryddhau’n ffurfiol. Ni chadarnhawyd yr elfennau hyn o’r gŵyn.
O ran y ffordd yr ymatebodd y Bwrdd Iechyd i gŵyn Mr A, canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb ar y cyd i Mr A i’w bryderon, ei fod wedi cymryd gormod o amser i ddarparu ei ymatebion ac nad oedd wedi rhoi sylw llawn i bryderon Mr A am yr Ysbyty yn yr ymateb a ddarparwyd. Mae’n ymddangos hefyd bod y ffaith bod y Bwrdd Iechyd wedi colli rhai o gofnodion ysbyty Mr A wedi effeithio ar ei allu i ymateb yn llawn i bryderon Mr A. Roedd y methiannau hyn o ran delio â chwynion wedi achosi trallod, anhwylustod ac ansicrwydd i Mr A, a oedd yn anghyfiawnder sylweddol ac wedi arwain yr Ombwdsmon i gadarnhau’r gŵyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr A, talu iawndal o £750 iddo ac argymell bod y Bwrdd Iechyd yn gweithredu mewn ymgais i geisio lleihau’r risg o gam-leoli cofnodion o’r fath yn y dyfodol.