Cwynodd Ms X am y gofal a roddwyd i’w mam, Mrs Y, ar ôl iddi gael broncosgopi ar 20 Ebrill 2021 ac yn benodol:
• a gafodd y broncosgopi ei gynnal yn briodol
• a gafodd Mrs Y ôl-ofal priodol yn dilyn y driniaeth, yn benodol, a oedd y penderfyniad i roi’r gorau i’w gwrthfiotigau ar 24 Mai yn rhesymol.
Canfu’r Ombwdsmon fod broncosgopi Mrs Y wedi’i gynnal i safon resymol a bod Mrs Y wedi cael gwybod am y risg o haint drwy’r ffurflen gydsynio cyn y driniaeth. Canfu’r Ombwdsmon fod yr apwyntiadau dilynol a gafodd Mrs Y gyda’r Bwrdd Iechyd wedi darparu ôl-ofal priodol. Roedd y methiant i ddechrau gwrthfiotigau ar 26 Ebrill a pheidio â pharhau â gwrthfiotigau ar ôl 24 Mai yn benderfyniadau rhesymol a oedd yn annhebygol, yn anffodus, o fod wedi newid yr hyn a ddigwyddodd yn yr achos hwn. Ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.