Cwynodd Mrs A am y rheolaeth a’r gofal a gafodd ei mam Mrs B yn Ysbyty Ystrad Fawr ac wedyn yn Ysbyty Athrofaol y Faenor sy’n cael eu rheoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Cwynodd Mrs A y dylai bod ei mam, a oedd wedi mynd yn sâl ar ôl iddi gael ei rhyddhau i’w chartref ar 10 Gorffennaf 2021, wedi cael ei derbyn yn ôl i’r Ysbyty Cyntaf ar 12 Gorffennaf a bod rhyddhau ei mam ar 27 Gorffennaf ar ôl cael ei derbyn i’r ysbyty fel claf mewnol yn anniogel. Hefyd, cwynodd Mrs A am y cyfathrebu gwael a fu gyda’r teulu am ofal diwedd oes ei mam. Yn olaf, dywedodd Mrs A fod oedi wedi bod o ran delio â’r gŵyn, oherwydd nad oedd ei chwyn wreiddiol wedi cael ei chofrestru a’i bod yn teimlo nad oedd yr ymateb i’r gŵyn yn gadarn.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon y dylai mam Mrs A fod wedi cael ei derbyn yn ôl i Ysbyty Ystrad Fawr ar 12 Gorffennaf wedi iddi fynd yn sâl ar ôl iddi gael ei rhyddhau i’w chartref ar 10 Gorffennaf. Er bod y methiant i dderbyn Mrs B i’r ysbyty yn fethiant o ran gwasanaeth, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon nad oedd hyn wedi arwain at unrhyw niwed sylweddol. Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn fodlon bod rhyddhau Mrs B yn ddiogel yn glinigol a bod y cyfathrebu gyda Mrs A a’i theulu am ofal diwedd oes Mrs B yn briodol ac yn rhesymol. Ni chadarnhawyd yr agweddau hyn ar gŵyn Mrs A.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd ymchwiliad ac ymateb y Bwrdd Iechyd wedi hynny yn ddigon cadarn oherwydd nid oedd wedi nodi/mynd i’r afael â’r diffygion o ran y camreoli a fu yng nghyswllt cwyn Mrs A. I’r graddau cyfyngedig hyn yn unig, cadarnhawyd yr agwedd hon ar gŵyn Mrs A ac argymhellwyd talu iawndal o £250.