Dyddiad yr Adroddiad

25/06/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202308926

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A ei bod yn anhapus â’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar fam-yng-nghyfraith gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”). Roedd Ms A hefyd yn anfodlon â’r ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â’r gŵyn a’r ymateb iddo.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymchwilio i rai o bryderon Mrs A, gan nad oedd wedi cadarnhau ei chŵyn yn ysgrifenedig. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A, cadarnhau ei phryderon yn ysgrifenedig, a chytuno i gychwyn ymchwiliad yn unol â’r rheoliadau Gweithio i Wella, o fewn 15 diwrnod gwaith.