Dyddiad yr Adroddiad

12/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202401455

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am ofal ei wraig gan y Bwrdd Iechyd cyn ac ar ôl endosgopi (triniaeth i edrych y tu mewn i’r corff gyda chamera bach) yn 2023. Syrthiodd Mrs A ar ôl y driniaeth a oedd wedi gofyn am ddefnyddio tawelyddion.

Roedd Mr A wedi ysgrifennu ddwywaith gyda phryderon at y Bwrdd Iechyd, ym mis Tachwedd 2023 a mis Mai 2024. Fe wnaeth godi rhai pryderon newydd yn ei lythyr ym mis Mai. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w lythyr cyntaf ond nid i’r ail. Felly nid oedd rhai agweddau ar ei gwynion wedi cael sylw.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymateb yn llawn i ail lythyr Mr A o fewn 8 wythnos, ac i ymddiheuro iddo am beidio ag ateb y llythyr hwnnw.