Dyddiad yr Adroddiad

13/08/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202402716

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod nyrs asiantaeth ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi rhoi meddyginiaeth anghywir i’w mam oedrannus pan oedd yn glaf mewnol yn Ysbyty Brenhinol Gwent.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Ms X, nad oedd wedi egluro pa wersi a ddysgwyd a pha welliannau sydd wedi digwydd ers y gŵyn.  Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Ms X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ymateb pellach i Ms X o fewn wythnos sy’n rhoi eglurhad ar y gwersi a ddysgwyd a’r gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud o ganlyniad i’r gŵyn.