Cwynodd Mrs T am safon y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w mam, Mrs V, ar ôl iddi gael ei derbyn i’r ysbyty ar 20 Mawrth 2022 mewn perthynas â’i ffibriliad atrïaidd a thorasgwrn yr arddwrn.
Dechreuodd yr Ombwdsmon gynnal ymchwiliad ond, yn fuan wedyn, daeth yn amlwg bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) yn dal i ymchwilio i bryderon Mrs T. Felly, gohiriodd yr Ombwdsmon ei hymchwiliad.
Yn y pen draw, daeth y Bwrdd Iechyd i’r casgliad bod Mrs V wedi dioddef anaf personol oherwydd tor-dyletswydd gofal a bod Mrs V wedi dioddef niwed o ganlyniad i hyn. Cynigiodd y Bwrdd Iechyd swm ariannol sylweddol i Mrs T a chyngor cyfreithiol annibynnol am ddim i ystyried ei ganfyddiadau.
Gan fod rhwymedi cyfreithiol bellach ar gael i Mrs T, ni allai’r Ombwdsmon barhau â’i hymchwiliad a chafodd cwyn Mrs T ei dirwyn i ben.