Dyddiad yr Adroddiad

31/10/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202307666

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Roedd cwyn Mrs A yn ymwneud â 3 maes:

a) a gynhaliwyd triniaeth lawfeddygol echdoriad trawswrethol tiwmor y bledren (TURBT) ei gŵr ym mis Ebrill 2022, i dynnu tiwmor y bledren yn Ysbyty Brenhinol Gwent (“yr Ysbyty”), yn briodol;

b) a gafodd ei ryddhau’n briodol;

ac yn olaf

c) a oedd presenoldeb hwyrach ei gŵr yn yr Ysbyty ym mis Mai y flwyddyn honno wedi’i reoli’n briodol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y TURBT wedi cael ei gynnal yn briodol a bod gofal, triniaeth a rheolaeth Mr A ar ôl y llawdriniaeth, gan gynnwys ar gyfer ei bresenoldeb ym mis Mai, hefyd yn rhesymol ac yn briodol. Ni chadarnhawyd cwynion Mrs A.