Cwynodd Ms B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ei thrin yn annheg a bod hyn wedi achosi trallod iddi.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Ms B, gan ymateb yn anffurfiol yn unig. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb i gŵyn Ms B o fewn 5 wythnos, a ddylai hefyd gynnwys esboniad ac eglurhad o pam na ddarparwyd ymateb ffurfiol pan godwyd y gŵyn.