Dyddiad yr Adroddiad

18/11/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202405047

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cafodd Mr B ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd nad yw’n ganser (schwannoma). Cwynodd am y diffyg eglurder ynghylch rheoli’r tiwmor ar ei ymennydd a’r effaith a gafodd arno.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd, fel rhan o gytundeb datrysiad cynnar (DC) i ysgrifennu at Mr B ac egluro mewn Saesneg clir ei gyflwr meddygol ac effeithiolrwydd ei driniaeth radiotherapi. Fel rhan o’r DC, byddai’r Bwrdd Iechyd hefyd yn egluro pam ei fod yn credu ei bod yn briodol i sganiau monitro arbenigol Mr B gael eu cynnal bob 2 flynedd (yn flaenorol roedd wedi bod yn flynyddol). Yn ogystal, cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai’n rhoi gwybod i Mr B pwy fyddai’n gyfrifol am ei ofal wrth symud ymlaen, a byddai’n ymddiheuro iddo am y dryswch ynghylch ei ofal.