Cwynodd Mr X ei fod wedi dioddef poen sylweddol ar ôl i lawfeddyg roi pin yn ei benglog heb anaesthesia. Roedd Mr X yn anhapus â’r ymateb i’w gŵyn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a’r ffaith nad oedd y Bwrdd wedi rhoi copïau iddo o’r datganiadau gan y llawfeddygon a fu’n rhan o’i ofal.
Casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi copïau i Mr X o ddatganiadau’r llawfeddygon er ei fod wedi rhoi datganiadau gan aelodau eraill o staff iddo. Hefyd, nid oedd yr ymateb gan y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn cydymffurfio â Rheoliadau’r GIG (Pryderon, Cwynion a Threfniadau Unioni Cam) (Cymru) 2011 oherwydd nad oedd wedi ateb y mater a oedd unrhyw atebolrwydd dilys yn codi i’r Bwrdd Iechyd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon ofyn i’r Bwrdd Iechyd a gytunodd i roi copïau i Mr X o ddatganiadau’r llawfeddygon o fewn 10 diwrnod gwaith, ynghyd ag ail-gyflwyno ei ymateb i gŵyn Mr X, yn dilyn ymgynghori â chlinigydd annibynnol, o fewn chwe mis.