Cwynodd Ms X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’w chŵyn ynghylch y gofal a’r driniaeth a gafodd ei thad pan oedd yn glaf mewnol yn yr ysbyty. Roedd Ms X yn credu bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi diagnosis anghywir i’w thad a bod hynny wedi achosi gwaedu ar ei ymennydd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymateb ysgrifenedig i Mrs X (erbyn 18 Mawrth) ac y dylai hwn roi sylw i’w chŵyn. Dylai hefyd gynnwys esboniad ac ymddiheuriad am yr oedi cyn ymateb.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn ffordd briodol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.