Cwynodd Mrs Z am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ystyriodd yr ymchwiliad a fu methiant i asesu anaf Mrs Z yn briodol pan ddaeth hi i’r ysbyty, gan arwain at fethiant i roi diagnosis o rwyg i linyn y gar, ac a oedd hyn wedi golygu na chafodd Mrs Z ei hatgyfeirio fel y gellid rheoli a thrin ei hanaf mewn modd mwy amserol. Ystyriodd yr ymchwiliad hefyd a gafodd cwyn Mrs Z i’r Bwrdd Iechyd ei drin yn briodol.
Canfu’r ymchwiliad fod yr asesiad a gafodd Mrs Z pan ddaeth hi i’r ysbyty yn briodol a bod diagnosis wedi’i wneud yn unol â’r canllawiau perthnasol. Ni chadarnhawyd yr agwedd hon ar gŵyn Mrs Z. Ni chafodd Mrs Z ei hatgyfeirio fel y gellid rheoli a thrin ei hanaf mewn modd amserol, ond roedd hyn oherwydd nad oedd ei chrynodeb rhyddhau yn ddigon manwl, nid oherwydd methiant i roi diagnosis priodol o’i hanaf. Cadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Mrs Z yn rhannol. Cafodd Mrs Z ymateb i’w chŵyn yn unol â’r rheoliadau perthnasol. Ni chadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Mrs Z.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs Z am fethu â chwblhau crynodeb rhyddhau digon manwl, a chynnig talu £125 iddi i gydnabod yr oediad a achosodd hyn cyn iddi gael triniaeth briodol i’w hanaf. Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd atgoffa’r meddyg a roddodd driniaeth i Mrs Z o bwysigrwydd cwblhau crynodebau rhyddhau digon manwl.