Cwynodd Mr C am y gofal a roddwyd i’w fam, Mrs D, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ym mis Mai 2023. Yn benodol, roedd yn bryderus bod seiciatrydd ymgynghorol wedi sylwi bod ei fam wedi dioddef Pwl o Isgemia Dros Dro (“TIA” – a elwir hefyd yn “fân strociau” ac a achosir gan amhariad dros dro ar y cyflenwad gwaed i ran o’r ymennydd). Dywedodd, er gwaethaf hyn, na wnaeth y seiciatrydd ymgynghorol drosglwyddo’r wybodaeth i glinigwyr eraill a oedd yn trin Mrs D, ac y gallai hyn fod wedi newid ei thriniaeth. Roedd hefyd yn pryderu nad oedd Adran Achosion Brys y Bwrdd Iechyd wedi canfod bod ei fam yn wynebu risg o gael Thrombosis Gwythiennau Dwfn pan aeth i gael asesiad o anaf i’w ffêr.
Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi sylw llawn i’r pryderon a nodir uchod yn ei ymateb i Mr C. Er mwyn setlo’r gŵyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb pellach i gŵyn Mr C o fewn wyth wythnos, gan roi sylw i’r materion sydd heb eu datrys, fel y’u pennir yr Ombwdsmon.