Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fam gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Yn benodol, roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd rheoli cyflwr Mrs B, pan gafodd ei derbyn i Ysbyty Treforys ar 2 Ionawr 2023, yn briodol yn glinigol.
Canfu’r ymchwiliad fod rheoli cyflwr Mrs B, pan gafodd ei derbyn i’r ysbyty ar 2 Ionawr 2023, yn briodol yn glinigol. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.