Cwynodd Mr A wrth y Bwrdd Iechyd ynghylch y gofal a’r driniaeth a gafodd ei ddiweddar dad. Ymatebodd y Bwrdd Iechyd i’w gŵyn ym mis Gorffennaf 2024, gan gynnig cyfarfod, os nad oedd wedi mynd i’r afael â’i gŵyn er boddhad iddo. Cwynodd Mr A i’r swyddfa hon, er ei fod wedi gofyn am gyfarfod gyda staff y Bwrdd Iechyd i drafod ei bryderon parhaus, nad oedd cyfarfod wedi’i drefnu’n brydlon.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â threfnu cyfarfod gyda Mr A, er gwaethaf ei lythyr ymateb i gŵyn yn nodi y gellid trefnu cyfarfod o’r fath. Yn hytrach nag ymchwilio i’r gŵyn hon, cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i drefnu cyfarfod gyda Mr A ac i ymddiheuro am fethu â gwneud hynny’n brydlon yn y lle cyntaf. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd y camau hyn cyn pen 2 fis.