Dyddiad yr Adroddiad

05/20/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202006075

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am y driniaeth a gafodd tra oedd dan ofal tîm Gastroenteroleg a Llawfeddygol y Bwrdd Iechyd. Eglurodd ei fod wedi bod dan ei ofal ers tua 3 blynedd, ond nad oedd wedi cael canlyniadau gwaed na chanlyniadau lefel gwrthgyrff ar gyfer ei feddyginiaeth.

Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb ffurfiol i gŵyn a godwyd gan Mr X. Roedd Mr X hefyd wedi bod mewn gohebiaeth ebost ar wahân gyda chynrychiolydd o’r Bwrdd Iechyd a bod nifer o gwestiynau’n parhau heb eu hateb a/neu fod Mr X yn aros am wybodaeth. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am ei ganlyniadau gwrthgyrff ac Amgevita; pam nad oedd yn briodol iddo dderbyn pigiadau haearn a fitamin B12; ac a oedd dewis arall yn lle tabledi haearn ar gael.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y byddai’n ddefnyddiol i Mr X gael ymateb pellach gan y Bwrdd Iechyd ynghylch y materion y cyfeirir atynt, gan gynnwys esboniad o amseroedd aros y Bwrdd Iechyd ar gyfer ei lawdriniaeth. Yn dilyn trafodaeth gyda’r Bwrdd Iechyd, cytunodd i roi ymateb pellach i setlo’r gŵyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny o fewn 30 diwrnod gwaith i’r dyddiad y bydd yr Ombwdsmon yn cyhoeddi ei benderfyniad.