Dyddiad yr Adroddiad

21/02/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202401128

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms C am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar dad, Mr D, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Cwynodd ynghylch a oedd yn briodol rhyddhau Mr D o’r ysbyty ar 24 Rhagfyr 2023. Cwynodd hefyd ynghylch a oedd oedi cyn trin Mr D yn y 2 ddiwrnod ar ôl iddo ddychwelyd i’r ysbyty ar 27 Rhagfyr 2023.

Canfu’r ymchwiliad, er nad oedd yn rhesymol rhyddhau Mr D ar 24 Rhagfyr, nad oedd hyn wedi newid yr hyn a ddigwyddodd iddo. Canfu’r ymchwiliad hefyd nad oedd oedi cyn trin Mr D ar ôl iddo ddychwelyd i’r ysbyty. Ni chafodd y cwynion hyn eu cadarnhau.