Dyddiad yr Adroddiad

07/29/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202101707

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A nad oedd wedi cael ymateb i’w chŵyn (a gyflwynwyd 6 mis ynghynt) am ofal ei diweddar dad. Roedd ei chŵyn fanwl yn ymwneud â nifer o faterion clinigol a chyfathrebu.

Roedd yr Ombwdsmon yn cydnabod y bu oedi, a phenderfynodd gysylltu â’r Bwrdd Iechyd er mwyn symud y mater ymlaen. Fel dewis arall yn lle ymchwilio i gŵyn Mrs A, gofynnodd yr Ombwdsmon am gytundeb y Bwrdd Iechyd i gwblhau ei ymchwiliad i’w phryderon ac i roi ymateb i Mrs A i’w chŵyn. Byddai hyn yn cael ei ddarparu o fewn 20 diwrnod gwaith, ynghyd ag ymddiheuriad am yr oedi. Mae’r Ombwdsmon wedi setlo’r gŵyn ar sail y camau gweithredu y cytunwyd arnynt.