Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i gŵyn Mr A am y gofal a gafodd ym Medi 2021 ar ôl iddo fynd i Adran Achosion Brys (“AAB”) â chur pen difrifol.
Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y canlynol yn glinigol briodol:
• y diagnosis, a arweiniodd at bigiad meingefnol (rhoi nodwydd denau i mewn i ran isaf yr asgwrn cefn i dynnu hylif)
• y broses o gydsynio i’r pigiad meingefnol
• ymarfer y pigiad meingefnol, o wybod bod gan Mr A gyflwr sy’n effeithio ar ei ewynnau
• y penderfyniad i ddefnyddio pigiad meingefnol yn hytrach na thriniaethau diagnostig eraill
• yr ôl-ofal ar ôl y pigiad meingefnol.
Canfu’r ymchwiliad fod y Bwrdd Iechyd wedi gweithredu mewn modd clinigol briodol. Roedd y penderfyniad i wneud pigiad meingefnol er mwyn diystyru cyflwr, er ei fod yn annhebygol o fod yn bresennol, a fyddai wedi gallu peri goblygiadau trychinebus i Mr A pe bai’n bresennol, yn ymarfer clinigol priodol. Gwnaethpwyd y pigiad meingefnol mewn modd priodol a chafwyd cydsyniad digonol ar sail gwybodaeth. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod y penderfyniad i ddefnyddio pigiad meingefnol yn hytrach na thriniaethau diagnostig eraill yn cyd-fynd â chanllawiau. Ni chadarnhawyd y cwynion hyn.
Canfu’r ymchwiliad fod yr ôl-ofal yn syth ar ôl y driniaeth yn briodol, ond er y trefnwyd apwyntiad dilynol i ymchwilio ymhellach i symptomau Mr A, ni chwblhawyd llythyr ymgynghori na’i rannu â meddyg teulu Mr A. Felly, collwyd cyfle i Mr A dreialu meddyginiaeth a chael adolygiad pellach o’i symptomau. Felly, cadarnhawyd y gŵyn hon.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr A am y methiannau a nodwyd a thalu £350 i Mr A am iddo golli’r cyfle i dreialu meddyginiaeth a chael adolygiad pellach o’i symptomau. Derbyniodd y Bwrdd Iechyd ganfyddiadau’r adroddiad, gan gytuno i roi’r argymhellion ar waith.