Dyddiad yr Adroddiad

03/01/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202303826

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei ddiweddar dad gan y Bwrdd Iechyd. Dywedodd Mr B fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i bryderon cychwynnol a leisiwyd am ofal ei dad. Fodd bynnag, ar ôl adolygu cofnodion meddygol ei dad, roedd wedi codi pryderon ychwanegol am ei feddyginiaeth a’r penderfyniadau a wnaed. Cwynodd Mr B fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi sylw i’w holl bryderon.

Cadarnhaodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i bryderon cynharach a godwyd gan Mr B ond ar ôl i’r cofnodion meddygol arwain at godi pryderon ychwanegol, teimlai’r Ombwdsmon y byddai’n ddefnyddiol pe bai Mr B yn derbyn ymateb pellach. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i ymateb i gŵyn Mr B o fewn 30 diwrnod gwaith.