Dyddiad yr Adroddiad

05/28/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202400817

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymateb i’w ddwy gŵyn am fater wrolegol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod methiant wedi bod gan y Bwrdd Iechyd i ymateb i’r cwynion a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr X a rhoi ymateb i’r gŵyn, a ddylai hefyd gynnwys eglurhad am y methiant a’r oedi, o fewn pythefnos.