Mae gan Mr B ddirywiad macwlaidd cysylltiedig ag oedran yn y ddau lygad (cyflwr sy’n effeithio ar ran ganol eich golwg). Cwynodd, er bod ei gynllun triniaeth yn cynnwys cael ei weld bob 4-8 wythnos (yn dibynnu ar ei ymgyflwyniad a chyngor Offthalmolegydd ym mhob apwyntiad), nad oedd yn cael apwyntiadau ar yr adegau gofynnol, oherwydd problemau gydag adnoddau’r Bwrdd Iechyd. Roedd yn bryderus y byddai diffyg apwyntiadau priodol yn arwain at ddirywiad yn ei olwg. Roedd am i’r Bwrdd Iechyd sicrhau bod triniaeth yn cael ei rhoi ar yr adegau gofynnol.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymrwymo i gynllun triniaeth ar gyfer Mr B o fewn mis, gan nodi sut bydd yn darparu gofal parhaus yn unol â disgwyliadau Offthalmolegydd Mr B. Byddai hefyd yn rhoi gwybod i Mr B am y cynllun triniaeth o fewn yr amserlen hon. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ganlyniad priodol a chafodd yr achos hwn ei gau ar y sail hon.