Dyddiad yr Adroddiad

27/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202306972

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Dr C am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) cyn, yn ystod ac ar ôl genedigaeth ei phlentyn cyntaf ar 16 Gorffennaf 2022. Ymchwiliwyd i’r materion canlynol:

· A ddylai Dr C fod wedi cael diagnosis o gyneclampsia (cyflwr sy’n effeithio ar rai menywod beichiog ac sy’n gallu arwain at gymhlethdodau difrifol) a gorbwysedd (pwysedd gwaed uchel) yn gynharach yn ei beichiogrwydd ac a gafodd hyn yn cael ei reoli’n briodol.

· A gafodd poen Dr C ei reoli’n briodol yn ystod y cyfnod esgor, a oedd yn briodol cynnal episiotomi (toriad rhwng y wain a’r anws), ac a gafwyd cydsyniad.

· A gafodd Dr C ei rhyddhau’n briodol ac a ddylai ei pherinëwm fod wedi cael ei ailffurfio’n gynt.

· A gafodd Dr C gefnogaeth briodol gan weithwyr iechyd ar ôl iddi ddychwelyd adref.

Canfu’r ymchwiliad na chafodd Dr C ddiagnosis o gyneclampsia a gorbwysedd nes iddi ddangos arwyddion esgor, ac y cafodd hynny ei reoli’n briodol. Yn ystod y cyfnod esgor, cafodd poen Dr C ei reoli’n briodol, roedd yn briodol cynnal episiotomi, a chafwyd cydsyniad i wneud hynny. Cafodd Dr C ei rhyddhau’n gywir, ac ni ellid bod wedi ailffurfio ei pherinëwm yn gynt oherwydd haint. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r cwynion hyn.

Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon, er bod Dr C wedi cael cefnogaeth briodol gan weithwyr iechyd, ei bod yn bosibl y byddai monitro ei pherinëwm yn well ar ôl yr enedigaeth, a chyfathrebu’n well â hi ynghylch cymhlethdodau posibl yn dilyn yr episiotomi, fod wedi rhoi tawelwch meddwi i Dr C a’i helpu i fondio’n well a bod yn fwy hyderus gyda’i phlentyn. Felly, cafodd y rhan hon o’r gŵyn ei chadarnhau.