Dyddiad yr Adroddiad

12/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202402077

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w ddiweddar dad, Mr B, yn Ysbyty Glan Clwyd rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2023, pan fu farw.

Roedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r rhan fwyaf o’r pryderon a godwyd yn y gŵyn wreiddiol, ond ni wnaeth ymchwilio nac ymateb i bryderon ynglŷn â gofal nyrsio yn ystod dyddiau olaf bywyd Mr B.

Yn hytrach nag ymchwilio i’r gŵyn, gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr A ac ymchwilio ac ymateb i’r pryderon sydd heb eu datrys, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd y camau hyn o fewn tri mis.