Cwynodd Miss A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu â rhoi sylw llawn i’w phryderon am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar dad rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2023.
Nododd yr Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn ond yn rhoi sylw i bryderon Miss A oedd yn ymwneud â’r cyfnod o 12 Mai 2023 ymlaen. Roedd methiant y Bwrdd Iechyd i roi sylw i’r pryderon a oedd yn ymwneud â’r cyfnod cynt yn gyfystyr â chamweinyddu, ac roedd hyn wedi achosi anghyfiawnder i Miss A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Miss A am fethu â rhoi sylw llawn i’w phryderon yn y lle cyntaf, ac i ymchwilio ac ymateb i’r pryderon hynny. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd y camau hyn o fewn 3 mis.