Cwynodd Mrs C am y rheolaeth a’r gofal a gafodd ei gŵr pan fu yn Ysbyty Glan Clwyd (“yr Ysbyty”). Yn benodol, nid oedd ei gŵr wedi cael ei weld gan y Gastroenterolegydd Ymgynghorol (“y Meddyg Ymgynghorol”) er iddo wneud sawl cais. Cyfeiriodd Mrs C hefyd at y diffyg cyfathrebu gan y nyrs Arbenigol ar gyfer Clefyd Llid y Coluddyn (“Nyrs IBD”).
Fel rhan o ddatrysiad cynnar, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr a Mrs C am y diffygion o ran cyfathrebu ac am beidio ag ymateb i bryderon Mr C mewn ffordd sy’n ystyriol o’r defnyddiwr/claf. Cytunodd hefyd i gynnig apwyntiad wyneb yn wyneb i Mr A gyda’r Meddyg Ymgynghorol a’r Nyrs IBD ac i esbonio ei lwybr clinigol iddo. Cytunodd hefyd i gyfathrebu â chleifion mewn iaith glir.