Dyddiad yr Adroddiad

28/02/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202408357

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) ynghylch, yn bennaf, safon y gofal a’r driniaeth a gafodd pan oedd hi yn yr ysbyty rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2023.
Gwnaeth Mrs A ei chŵyn ym mis Medi 2024. Fodd bynnag, gwrthododd y Bwrdd Iechyd ymchwilio gan fod y pryderon dros 12 mis oed. Cytunodd yr Ombwdsmon fod llawer o’r pryderon yn rhy hwyr, ond nododd nad oedd ymateb wedi bod i un mater a ddigwyddodd yn ystod gwanwyn 2024.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymchwilio ac ymateb i’r pryder, o fewn 4 wythnos, o dan reoliadau ‘Gweithio i Wella’, ac i ymddiheuro i Mrs A am fethu â gwneud hyn ar y cychwyn.