Dyddiad yr Adroddiad

24/08/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202103038

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb iddi i’w chwyn ynghylch colli samplau gwaed ei mab. Roedd wedi bod yn cynnal ymchwiliadau ac nid oedd wedi cael unrhyw esboniad ynghylch sut roedd y samplau wedi cael eu colli.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymateb ysgrifenedig sylweddol i Mrs X i’w phryderon (o fewn 3 wythnos), a ddylai hefyd gynnwys esboniad, ac ymddiheuriad, am yr oedi yn ei hymateb.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.