Cwynodd Mrs A am y gofal a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Awst 2023. Pan gwynodd Mrs A i’r Ombwdsmon, dywedodd ei bod yn anfodlon nad oedd y Bwrdd Iechyd, wrth ymateb i’w chŵyn, wedi cynnig trafod ei phryderon.
Canfu’r Ombwdsmon, pan gyhoeddodd y Bwrdd Iechyd ei ymateb i’r gŵyn, ei fod wedi methu â chynnig cyfle i Mrs A drafod yr ymateb i’w phryderon, fel sy’n ofynnol o dan y trefniadau Gweithio i Wella. Roedd hynny’n gamweinyddu ar ran y Bwrdd Iechyd a achosodd anghyfiawnder i Mrs A.
Yn hytrach nag ymchwilio i’r gŵyn, cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai’n cynnig cyfle i Mrs A drafod ei ymateb i’w chŵyn ac ymddiheuro am beidio â gwneud hynny yn y lle cyntaf. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd y camau hyn o fewn 1 mis.