Cwynodd Mrs X am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei mam pan roedd yn glaf mewnol yn un o ysbytai’r Bwrdd Iechyd; dywedodd ei fod yn “esgeulustod llwyr”. Cwynodd Mrs X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi parhau â meddyginiaeth ar bresgripsiwn ei mam, wnaeth achosi niwed iddi.
Yn rhan o’i asesiad, nododd yr Ombwdsmon nad oedd pryderon Mrs X wedi cael eu dwyn i sylw’r Bwrdd Iechyd. Felly, daeth i’r casgliad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cael cyfle rhesymol i archwilio ac ymateb i’r gŵyn.