Cwynodd Mr B am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd gan adran Wroleg y Bwrdd Iechyd. Yn benodol, cwynodd Mr B fod y Bwrdd Iechyd wedi canslo biopsi a’i ryddhau heb gyfathrebu â fo o gwbl ynghylch beth a fyddai’n digwydd nesaf, bod yr adran wroleg wedi methu â rhoi gofal a thriniaeth amserol a phriodol iddo am ddolur crawn a bod ymchwiliad y Bwrdd Iechyd i’w gŵyn yn annigonol.
Casglodd ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd cyfiawnhad dros ganslo biopsi Mr B. Roedd y canslo’n fethiant gwasanaeth oedd wedi achosi oedi diangen i fiopsi Mr B. Roedd hyn yn anghyfiawnder ac felly penderfynodd yr Ombwdsmon dderbyn y rhan yma o gŵyn Mr B. Casglodd yr ymchwiliad hefyd nad oedd unrhyw dystiolaeth o gyfathrebu â Mr B ynghylch y penderfyniad i ganslo’r biopsi, sut y dylid trin ei bwysedd gwaed uchel yn y cyfamser, a beth y dylai ddisgwyl iddo ddigwydd nesaf. Roedd hyn yn anghyfiawnder pellach.
Casglodd yr ymchwiliad hefyd fod y penderfyniad i beidio â draenio dolur crawn Mr B ar 12 Mehefin yn glinigol amhriodol. Roedd yr oedi cyn ei ddraenio wedi hwyhau salwch Mr B gan achosi coes chwyddedig a gwres iddo. Achosodd hyn boen meddwl i Mr B oedd yn anghyfiawnder ac felly penderfynodd yr Ombwdsmon dderbyn y rhan yma o gŵyn Mr B.
Yn olaf, casglodd ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn ddigon trylwyr o ran rhoi sylw i’r pryderon a godwyd gan Mr B. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi sylw digonol i’r mater o ganslo’r biopsi a heb ymateb o gwbl i’r materion a leisiwyd ynghylch cyfathrebu â Mr B yn dilyn canslo’r biopsi. Roedd methiant y Bwrdd Iechyd i ddelio â’i gŵyn yn gyfystyr â chamweinyddu gan achosi anghyfiawnder i Mr B drwy ei adael ag atebion anfoddhaol i’r pryderon a leisiwyd ganddo. Penderfynodd yr Ombwdsmon dderbyn y rhan yma o gŵyn Mr B.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro wrth Mr B, yn cynnig talu iawndal o £1500 iddo a’r £140 y bu’n rhaid iddo ei dalu am apwyntiad ymgynghori preifat. Argymhellodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd yn rhannu’r adroddiad â’r staff clinigol perthnasol ac yn cadarnhau i’r Ombwdsmon fod yr adroddiad wedi’i ddefnyddio ar gyfer myfyrio beirniadol. Yn olaf, argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn adolygu ei broses o ddraenio doluriau crawn dan arweiniad CT gan ddangos tystiolaeth i’r Ombwdsmon bod gan radiolegwyr perthnasol y cymhwysedd angenrheidiol i gyflawni’r prosesau hyn, ac os nad oes radiolegydd ar gael, bod cleifion yn gallu cael eu trosglwyddo’n amserol i ysbyty arall i dderbyn y broses / y driniaeth.