Cwynodd Mr B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu â rhoi diagnosis o ganser y coluddyn yn ystod nifer o dderbyniadau brys i’r ysbyty rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2019. Teimlai’n arbennig y dylai’r Ymgynghorydd a oedd yn bennaf gyfrifol am ei driniaeth ar ôl ei arhosiad olaf ym mis Tachwedd fod wedi rhoi diagnosis iddo’n gynharach, o ystyried canlyniadau’r profion blaenorol a oedd ar gael iddo. Cwynodd Mr B hefyd fod yr Ymgynghorydd yn anghwrtais ac yn ddiystyriol, a’i fod yn meddwl bod Mr B yn dweud celwydd am ei salwch oherwydd problemau iechyd meddwl.
Canfu’r Ombwdsmon y gall diagnosis o ganser y coluddyn fod yn gymhleth ac mai dim ond drwy ddileu achosion neu glefydau eraill y gellir gwneud hyn weithiau. Canfu fod y profion, y sganiau a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd gan y Bwrdd Iechyd yn briodol. Canfu’r Ombwdsmon ei bod yn annheg rhoi’r bai ar un Meddyg Ymgynghorol yn unig am fod nifer o glinigwyr eraill hefyd yn ymwneud â thrin Mr B. Er bod tystiolaeth i ddangos bod yr Ymgynghorydd wedi ystyried atgyfeiriad seiciatrig, nid oedd hyn wedi digwydd ac roedd y cofnodion meddygol yn dangos bod yr Ymgynghorydd yn blaenoriaethu profion i ganfod rheswm corfforol dros symptomau Mr B. Felly ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau cwyn Mr B.