Dyddiad yr Adroddiad

24/03/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202206711

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am apwyntiad claf allanol yr aeth iddo pan lewygodd, taro ei phen a mynd yn anymwybodol. Cafodd ei derbyn i’r ysbyty wedyn ond roedd ganddi achos hefyd i gwyno am y gofal a’r driniaeth a gafodd. Dywedodd Miss A ei bod yn anhapus ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod Miss A yn anghytuno â rhannau o ganfyddiadau ymchwiliad y Bwrdd Iechyd ond nad oedd wedi elwa o ymateb pellach gan y Bwrdd Iechyd. Teimlai’r Ombwdsmon y byddai’n ddefnyddiol i Miss A gael ymateb a oedd yn rhoi sylw i’r pwyntiau a godwyd ganddi.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb ysgrifenedig i Miss A, o fewn 30 diwrnod gwaith, a oedd yn rhoi sylw i’r pwyntiau a godwyd yn ei chŵyn i’r Ombwdsmon. Cafodd y cam hwn ei dderbyn fel dewis arall yn lle ymchwiliad.