Dyddiad yr Adroddiad

22/03/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202104102

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Roedd cwyn Mrs A yn ymwneud â’r gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar ŵr, Mr A, wrth iddo gael ei dderbyn i Ysbyty Maelor Wrecsam (“yr Ysbyty Cyntaf”) ac Ysbyty Cymunedol yr Wyddgrug (“yr Ail Ysbyty”) yng nghanol 2019. Yn benodol, cwynodd Mrs A fod ei gŵr wedi cael ei ryddhau’n amhriodol o’r Ysbyty Cyntaf ar 18 Mehefin 2019 heb unrhyw Weithiwr Cymdeithasol nac apwyntiad dilynol i gleifion allanol. Ar ôl iddo gael ei dderbyn yn ôl y diwrnod canlynol, cwynodd Mrs A fod oedi cyn cwblhau gwaith papur cyfeirio (gan gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol a Therapi Galwedigaethol) ar gyfer trefnu pecyn gofal, a oedd yn golygu bod yn rhaid trosglwyddo ei gŵr i’r Ail Ysbyty yn hytrach na’i ryddhau gartref. Mynegodd Mrs A bryderon hefyd bod y Bwrdd Iechyd wedi methu nodi ac ymateb yn brydlon i ddirywiad ei gŵr yn ystod ei arhosiad yn yr Ail Ysbyty. Yn olaf, cwynodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd yr hyn yr oedd hi’n ei ystyried yn sgwrs breifat gyda nyrs hosbis ymlaen fel cwyn, ac felly wedi trafod a rhannu ei gwybodaeth bersonol â’r Bwrdd Iechyd heb ei chaniatâd neu heb roi unrhyw gydsyniad.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod diffyg eglurder ynghylch rhai agweddau ar y cynllun rhyddhau, fel yng nghyswllt asesiad gwaith cymdeithasol, nad oedd hyn yn effeithio o gwbl ar aildderbyn Mr A i’r Ysbyty Cyntaf. At ei gilydd, canfu’r Ombwdsmon ei bod yn rhesymol o safbwynt meddygol i ryddhau Mr A ar 18 Mehefin. Ni allai’r Ombwdsmon ychwaith ddod i’r casgliad y byddai trosglwyddiad diweddarach Mr A i’r Ail Ysbyty wedi cael ei osgoi o reidrwydd pe na bai’r oedi cyn anfon atgyfeiriad i’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi digwydd. O ganlyniad, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr agweddau hyn ar y gŵyn. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon nad oedd dirywiad Mr A pan oedd yn yr Ail Ysbyty yn cael ei fonitro na’i weithredu’n briodol, a bod cyfle wedi’i golli i gael trafodaeth lawn a chlir gyda Mrs A am opsiynau posib wrth symud ymlaen. O ran delio â chwynion, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y dryswch cychwynnol a’r camreoli o ran pryderon anffurfiol Mrs A wedyn wedi’u gwaethygu gan eiriad y llythyrau a dderbyniodd wedi hynny. O ganlyniad, cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr agweddau hyn ar gŵyn Mrs A.

Argymhellodd y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs A am y diffygion a nodwyd. Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd rannu’r adroddiad terfynol â meddyg o’r Ail Ysbyty a chadarnhaodd y byddai’r adroddiad yn rhan o’u gwerthusiad nesaf.