Dyddiad yr Adroddiad

31/03/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202201141

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu gweithredu ar ei phryderon am goesau chwyddedig ei mam, Mrs R, am 10 diwrnod. Yn sgil diffyg triniaeth brydlon ac effeithiol, dywedodd Mrs C fod ei mam wedi datblygu haint bacterol (llid y ffasgell sy’n madru) a oedd yn ffactor a gyfrannodd at ei marwolaeth ar 27 Mai 2021.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, er gwaethaf y ffaith bod Mrs R yn wael, nad oedd wedi dangos unrhyw arwyddion clinigol o haint. Ymwelodd staff Nyrsio Ardal a’i meddyg teulu â Mrs R yn ystod y cyfnod hwn, ac roedd yr Ombwdsmon yn fodlon, yn gyffredinol, â’r gofal a gafodd. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad na ellid bod wedi rhagweld ei dirywiad sydyn. Ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.

Fodd bynnag, roedd gan yr Ombwdsmon bryderon ynghylch prosesau cadw cofnodion y gwasanaeth Nyrsio Ardal. Gwahoddodd y Bwrdd Iechyd i rannu’r adroddiad gyda’i staff Nyrsio Ardal ac iddo roi adborth ar unrhyw welliannau y byddai’n eu gwneud.