Cwynodd Mrs S nad oedd wedi derbyn ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r gŵyn a wnaeth ym mis Awst 2022 am fethu diagnosis ei merch.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r gŵyn, ac nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi diweddariad i Mrs S am ei ymchwiliad. Dywedodd fod hyn wedi gwneud i Mrs S deimlo’n rhwystredig.
Yn hytrach na chynnal ymchwiliad cytunodd y Gymdeithas â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mrs S am yr oedi, ymateb i’r pryderon a godwyd, a rhoi taliad o £200 o fewn 6 wythnos i wneud iawn am ei hamser a’i thrafferth.