Cwynodd Mr F nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb i gŵyn a wnaeth iddo ym mis Ebrill 2022.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn ar 5 Mai 2023, ond daeth i’r casgliad nad oedd yr ymateb yn rhoi sylw i’r holl bryderon a godwyd gan Mr F. Dywedodd fod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mr F. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr F, ac i gynnig £200 iddo am yr amser a’r drafferth a oedd yn gysylltiedig â’r gŵyn. Hefyd, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb dilynol i’r gŵyn o fewn 10 wythnos.