Dyddiad yr Adroddiad

09/06/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202202008

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs C na chafodd ddigon o dawelydd wrth gael colonosgopi yn Ysbyty Glan Clwyd.

Canfuwyd bod Mrs C wedi cael cyffuriau tawelu a lleddfu poen priodol wrth gael y driniaeth. Fodd bynnag, dylai hefyd fod wedi cael cynnig nwy ac aer (cymysgedd o ocsid nitrus ac ocsigen a ddefnyddir i leddfu poen a phryder). Ar sail tebygolrwydd, fe wnaethom ganfod nad oedd hyn wedi cael ei gynnig, a bod yn fethiant gwasanaeth. Roeddem o’r farn, pe bai wedi cael ei gynnig, y byddai’n debygol o fod wedi lleddfu ei phoen a’i phryder i ryw raddau, er na fyddai, mae’n debyg, wedi rheoli ei phoen yn llwyr. Roedd y methiant i gynnig nwy ac aer yn anghyfiawnder i Mrs C, ac i’r graddau hynny fe wnaethom gadarnhau’r gŵyn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs C am ei fethiannau a rhoi tystiolaeth o archwiliad o pro forma rhestr wirio i’w chwblhau cyn cynnal colonosgopi.