Dyddiad yr Adroddiad

26/06/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202206106

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Mr B am y gofal a’r driniaeth a gafodd yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Prifysgol Cymru ar 17 Ebrill 2022. Cwynodd Mr B nad oedd wedi cael ei asesu’n briodol, bod sganiau priodol heb eu cynnal, a’i fod wedi cael ei ryddhau cyn pryd. Cwynodd hefyd fod yr ymateb i’r gŵyn a gafodd gan y Bwrdd Iechyd yn ffeithiol anghywir.

Ar ôl i’r Ombwdsmon ddechrau ymchwilio, adolygodd y Bwrdd Iechyd ofal Mr B a’i ymateb cychwynnol i’r gŵyn. Dywedodd, ar ôl adolygu, fod y gofal a ddarparwyd i Mr B yn is na’r safon resymol. Cytunodd, o fewn 4 wythnos, i ymddiheuro i Mr B a chyhoeddi ymateb wedi’i ddiweddaru i’r gŵyn, i wneud taliad i Mr B o £1000 am yr amser a’r drafferth wrth fwrw ymlaen â’r gŵyn hon, i ystyried yr achos o dan ei gynllun gwneud iawn mewn perthynas â setliad ar gyfer y boen a’r dioddefaint ychwanegol a brofodd Mr B oherwydd yr oedi cyn cynnal sgan, ac i rannu â’r Ombwdsmon ei ganllawiau diweddaraf ar gyfer ymchwilio i Syndrom Cauda Equina (“CES”). Cytunodd hefyd, o fewn 8 wythnos, i weithredu proses adolygu clinigol ychwanegol ar gyfer yr holl bryderon ynghylch anaf CES a amheuir, i drefnu bod ymgynghorwyr adolygu yn yr Adran Achosion Brys yn mynychu sesiynau ymwybyddiaeth ynghylch adnabod ac ymchwilio i CES, ac i rannu’r achos yng nghyfarfod Profiad a Diogelwch Ansawdd y Bwrdd Clinigol a chyfarfod yr adran Morbidrwydd a Marwolaethau i hyrwyddo trafodaeth a dysgu.

Yng ngoleuni’r camau gweithredu hyn y cytunwyd arnynt, daethpwyd â’r ymchwiliad i ben.