Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i gŵyn gan Miss C, ar ran ei mam-yng-nghyfraith Mrs B, am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd diweddar ŵr Mrs B, Mr B, gan y Bwrdd Iechyd yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty ym mis Mai 2022. Cwynodd na chafodd anghenion gofal personol a methu dal Mr B eu cwrdd, na chafodd ei feddyginiaeth ei gweinyddu’n briodol a bod y staff meddygol wedi methu ag archwilio a thrin haint Mr B yn briodol. Cwynodd hefyd fod Mr B wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty heb asesiad rhyddhau rhesymol gan olygu ei fod wedi cael ei ail-dderbyn i ysbyty gwahanol o fewn 48 awr. Ystyriodd yr ymchwiliad hefyd a fethodd yr ysbyty â gweithredu trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid (“DOLS”) i sicrhau bod Mr B yn cael ei gadw’n gyfreithlon ac a gymrodd ei ddiagnosis o anhwylder straen wedi trawma (“PTSD” – anhwylder gorbryderu a achosir gan ddigwyddiadau o straen, dychryn neu drallod difrifol) i ystyriaeth.
Penderfynodd yr ymchwiliad fod anghenion gofal personol a methu dal Mr B heb gael eu cwrdd a heb gyrraedd safonau derbyniol. Roedd hyn wedi amharu ar breifatrwydd ac urddas Mr B ac yn anghyfiawnder iddo. Penderfynodd yr ymchwiliad fod meddyginiaeth lladd poen Mr B wedi cael ei gweinyddu a’i hadolygu’n briodol. Fodd bynnag nid oedd meddyginiaeth wedi’i rhagnodi ar gyfer cynnwrf (gorbryderu neu densiwn) wedi’i gweinyddu a hynny heb reswm o ystyried PTSD a chyflwr cynhyrfus parhaus Mr B. Cadarnhawyd y cwynion hyn felly.
Penderfynwyd bod yr archwiliadau a’r driniaeth a dderbyniodd Mr B ar gyfer ei haint yn briodol a bod safon y gofal clinigol yn dderbyniol. Roedd Mr B hefyd wedi cael ei ryddhau’n briodol ar ôl derbyn adolygiad clinigol priodol. Ni chadarnhawyd y cwynion hyn felly.