Dyddiad yr Adroddiad

03/05/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Cyfeirnod Achos

202203007

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms C am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Yn benodol, cwynodd a oedd yr oedi rhwng cadarnhau ffibroid mawr a chael hysterectomi yn dderbyniol, a gollwyd cyfleoedd i wneud diagnosis cynharach o ganser endometriaidd ac a ddylai’r posibilrwydd o thrombosis gwythiennau dwfn ac emboledd ysgyfeiniol fod wedi cael ei ystyried cyn mis Chwefror 2021.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd yr oedi cyn i Ms C gael hysterectomi yn dderbyniol, hyd yn oed o ystyried yr oedi nad oedd modd ei osgoi yn sgil cyfyngiadau COVID-19. Roedd cyfleoedd wedi’u colli i Ms C gael llawdriniaeth cyn i gyfyngiadau COVID-19 gael eu cyflwyno, a chafodd y rheolau yn ymwneud â’r amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth eu camddefnyddio. Collwyd cyfleoedd i ganfod canser endometriaidd Ms C yn gynharach. Roedd y symptomau roedd hi’n eu profi yn golygu y dylai atgyfeiriadau am driniaeth ac archwiliad pellach fod wedi’u gwneud yn gynharach, a phetai hynny wedi’i wneud mae’n bosibl y byddai wedi cael diagnosis o ganser endometriaidd hyd at 2 flynedd yn gynharach. Cafodd y rhannau hyn o gŵyn Ms C eu cadarnhau. Canfu’r ymchwiliad y dylid bod wedi ystyried thrombosis gwythiennau dwfn ac emboledd ysgyfeiniol pan aeth Ms C i’r ysbyty ar 1 Chwefror 2021. Gan fod hyn y tu allan i’r cyfnod amser a nodwyd yn y gŵyn, cafodd y rhan hon o gŵyn Ms C ei chadarnhau’n rhannol

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms C. Cytunodd hefyd i rannu adroddiad yr ymchwiliad â chlinigwyr perthnasol a sicrhau bod y clinigwyr sy’n trin Ms C yn ymwybodol o’r symptomau sydd angen asesiad endometriaidd pellach. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i archwilio sampl o achosion gynaecolegol i sicrhau nad yw amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi’u camddefnyddio mewn achosion eraill.