Dyddiad yr Adroddiad

11/06/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202401132

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs S am y gofal a’r driniaeth wael a ddarparwyd i’w diweddar fam gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Dywedodd ei bod wedi codi ei phryderon gyda’r Bwrdd Iechyd ond nad oedd wedi cael ymateb Gweithio i Wella.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi trefnu cyfarfod gyda Mrs Sitt, nad oedd wedi dilyn ei broses gwyno a chyhoeddi ymateb Gweithio i Wella. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs S. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Fe wnaeth yr Ombwdsmon geisio a chael cytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs Sand ac i dalu iawndal o £75 iddi am ei fethiant i ddilyn y broses gwyno. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i egluro’r pryderon sydd heb eu datrys i Mrs S o fewn 20 diwrnod gwaith ac, ar ôl hynny, cyhoeddi ymateb Gweithio i Wella o fewn 30 diwrnod gwaith.