Dyddiad yr Adroddiad

03/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202300519

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs C ar ran ei gŵr, Mr A, am y gofal a’r driniaeth niwrolegol a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2021. Ymchwiliwyd i’r materion canlynol:

a) A oedd triniaeth niwrolegol Mr A rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2021 yn briodol. Yn benodol:

• A ellid bod wedi gwneud mwy i osgoi haint.

• A oedd ei siynt draenio fentrigaidd allanol (“EVD” – dull mesur dros dro o ddraenio hylif o’r ymennydd a llinyn asgwrn y cefn ac o’i amgylch) yn cael ei newid yn ddigon rheolaidd.

• A ddylid fod wedi ystyried siynt fentrigwloperitoneol (“VP” – tiwb plastig bach i helpu i ddraenio hylif ychwanegol o’r ymennydd a llinyn asgwrn y cefn ac o’i amgylch).

• Os dylid bod wedi ystyried anhwylder Von Willebrand (cyflwr etifeddol lle nad yw’r gwaed yn ceulo’n iawn).

b) A oedd Mr A yn ddigon iach i gael ei drosglwyddo i ysbyty gwahanol ar 28 Mehefin 2021.

Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i Mr A gan y Bwrdd Iechyd rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2021 yn briodol yn glinigol, yn ogystal â’r penderfyniad i’w drosglwyddo i ysbyty arall ar 28 Mehefin 2021. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r cwynion.