Dyddiad yr Adroddiad

19/08/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202307325

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs A am safon y gofal a gafodd yn Ysbyty Athrofaol Cymru (“yr Ysbyty”).  Yn benodol, cwynodd y dylai fod wedi cael diagnosis o emboledd ysgyfeiniol cyn iddi gael ei rhyddhau o’r Ysbyty.  Gwnaed diagnosis o hyn 4 diwrnod yn ddiweddarach mewn ysbyty gwahanol.

Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.  Canfuom fod y gwaith o reoli ac ymchwilio’n glinigol i symptomau Mrs A yn yr Ysbyty yn briodol.  Nid oedd y canfyddiadau clinigol yn dangos presenoldeb emboledd ysgyfeiniol bryd hynny.  Roedd y penderfyniad i ryddhau Mrs A o’r Ysbyty yn un rhesymol.