Dyddiad yr Adroddiad

05/08/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202401058

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am safon y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w mam, Mrs B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) cyn iddi farw yn yr ysbyty.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb terfynol cyfyngedig i bryderon Mrs A, nad oedd yn adlewyrchu’r hyn a drafodwyd mewn cyfarfod a gynhaliwyd rhwng Mrs A a’r Bwrdd Iechyd. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb llawn o fewn 30 diwrnod gwaith i Mrs A i gydnabod yr hyn a aeth o’i le ac, os oedd yn berthnasol, ymddiheuriad ysgrifenedig, yn ogystal â manylion unrhyw wersi a ddysgwyd a chamau gwella a ddeilliodd o’r gŵyn.