Dyddiad yr Adroddiad

16/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202303528

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss A fod cyfleoedd wedi cael eu colli i wneud atgyfeiriad cynharach a/neu gynnal ymchwiliadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) mewn perthynas â’i hachosion o golli beichiogrwydd rhwng mis Ebrill 2021 a mis Medi 2022. Cwynodd hefyd am gamweinyddu yn y ffordd yr ymdriniwyd â’i chŵyn ac, yn benodol, fod oedi wedi cael effaith negyddol ar ei hopsiynau triniaeth posibl.
Canfu’r ymchwiliad fod Miss A a’i phartner wedi cael eu hatgyfeirio at Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru yn fuan wedi iddynt fodloni’r holl feini prawf cymhwysedd. Canfu hefyd fod profion caryoteip (proses a ddefnyddir i archwilio cromosomau) wedi cael eu hystyried ar yr adeg briodol a’i bod yn rhesymol i’r Bwrdd Iechyd beidio ag argymell hysterosgopi. Canfu’r ymchwiliad nad oedd arwydd clinigol a fyddai wedi bod yn sail dros roi asid ffolig ar bresgripsiwn i Miss A cyn iddi gael ei hatgyfeirio at Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru a bod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau rhesymol i roi gwybod i Miss A am ganlyniadau profion genetig ar ôl ei phumed achos o golli beichiogrwydd. Ni chafodd y rhannau hyn o gŵyn Miss A eu cadarnhau.
Canfu’r ymchwiliad fod methiant y Bwrdd Iechyd i anfon meinwe o bedwerydd achos Miss A o golli beichiogrwydd am brofion genetig wedi achosi ansicrwydd parhaus iddi, a oedd yn anghyfiawnder. Canfu hefyd fod cyfle wedi cael ei golli i ddatrys agweddau ar gŵyn Miss A yn gynt. Cafodd y rhannau hyn o gŵyn Miss A eu cadarnhau.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Miss A am y methiannau a ganfuwyd yn yr ymchwiliad. Cytunodd hefyd i atgoffa staff sy’n ymchwilio i gwynion o’r opsiynau posibl ar gyfer datrys agweddau ar gwynion yn gynnar.