Dyddiad yr Adroddiad

25/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202403857

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs H na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro roi eglurder iddi ynglŷn â’i chynllun triniaeth ac y bu diffyg cyfathrebu rhwng yr adrannau a oedd yn rhan o’i gofal.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ystyried pryderon Mrs H drwy ddatrys y mater yn gynnar. Roedd hyn wedi cymryd chwe mis ac yna dywedwyd yn anghywir wrth Mrs H am gysylltu â’r Ombwdsmon pe na bai ei phryderon wedi cael eu datrys. Penderfynodd yr Ombwdsmon na wnaeth y Bwrdd Iechyd ddilyn ei broses gwyno’n briodol, a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mrs H. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs H a thalu £50 iddi i wneud iawn am beidio â dilyn y broses gwyno, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i roi ymateb Gweithio i Wella o fewn 30 diwrnod gwaith.